top of page

Sarah Wilkinson -Cŵn Clyfar

Helo, Sarah ydw i, Mam falch i dri o blant ‘gwych’ (rhan fwyaf o'r amser) a phedwar ci anhygoel. Fel athrawes gymwysedig, hyfforddwr cŵn, ac ymgynghorydd ymddygiad cŵn, mae fy siwrnai gyda chŵn wedi bod yn bersonol ac yn hynod drawsnewidiol.

​

Roedd fy niddordeb mewn  cŵn bob amser yn rhan ohonof, ond pan oedd ein ci teuluol yn brathu pob un o'n plant, daeth yn drobwynt. Rhoddodd y digwyddiad sioc i ni, gan na welsom unrhyw rybuddion amlwg. Fodd bynnag, fe wnaeth y profiad hwn fy ysgogi i ymchwilio i fyd hynod ddiddorol iaith gorfforol cŵn a chyfathrebu. Dysgais i fod ein ci mewn gwirionedd wedi rhoi nifer o arwyddion bach a sylwon ni ddim.

​

Wedi fy ysbrydoli gan y digwyddiad hwn, penderfynais i weithio i helpu teuluoedd eraill osgoi heriau tebyg. Cymhwysais fel Hyfforddwr Cŵn Proffesiynol (Absolute Dogs) ac Ymgynghorydd Ymddygiad Cŵn (British College of Canine Studies). Rwy hefyd yn falch iawn o fod yn aelod o 'Kids around Dogs' KAD a'r Pet Professional Network.

 

Gan ddefnyddio fy nghefndir mewn addysgu a’m harbenigedd newydd mewn hyfforddi cŵn, rwyf wedi ymroi fy hun i helpu cŵn, plant, a’u teuluoedd i feithrin perthnasoedd diogel a llawn ymddiriedaeth trwy gemau hyfforddi difyr a hwyl.

​

Rwy'n eich gwahodd i archwilio fy ngwefan, dysgu mwy am fy ngwasanaethau, ac ymuno â mi ar y daith hon i feithrin dealltwriaeth gwell rhwng cŵn a'u teuluoedd dynol. Dysgu byw ein bywydau gorau gyda'n gilydd!

proffil gwe.jpg
Crufts.jpg
cwtsh Ed.jpg
KAD stondin.jpg
croes stondin.jpg
stondin croes 2.jpg
tîm Barkfest.jpg
bottom of page